English

Datganiad Hygyrchedd

Mae ystod y datganiad hwn yn cwmpasu gwefan Arolwg Cwsmeriaid CThEF www.hmrcsurvey.co.uk a rhyngwyneb yr arolwg, sef yr offeryn a gaiff ei ddefnyddio i gwblhau'r arolwg.

Ar y dudalen hon:


Trosolwg

Caiff y wefan hon a rhyngwyneb yr arolwg eu rheoli gan Verian. Rydym am i gymaint o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon a chwblhau'r arolwg yn rhwydd.

Tu hwnt i gydymffurfiad, mae sicrhau bod ein holiadur ar-lein yn hygyrch i bawb yn parhau i fod yn egwyddor sylfaenol i Verian. Mae'r ymrwymiad hwn yn gyrru ein hymdrechion parhaus i wella profiadau'r cwsmer i bawb sy'n cael gwahoddiad i gymryd rhan yn un o'n harolygon. Rydym wedi dylunio ein gwefan a rhyngwyneb yr arolwg gyda hygyrchedd mewn cof, gan gymryd i ystyriaeth arweiniad ymarfer da o ran hygyrchedd y we er mwyn sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn gallu cymryd rhan.

Rydym wedi ymrwymo i wella mynediad at ein harolygon, ac yn cynnal archwiliadau hygyrchedd yn rheolaidd o'n sgriniau arolwg a'r tudalennau mewngofnodi. Mae ein sgriniau arolwg safonol wedi cael eu hachredu ym Mehefin 2025 fel rhai sy'n cydymffurfio â safon 'AA' Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG), fersiwn 2.2.

Grŵp Verian: Achrediad Sgriniau Arolwg | Canolfan Hygyrchedd Digidol

Pan fo Arolwg Cwsmeriaid CThEF yn gwyro oddi ar sgriniau arolwg safonol, caiff problemau hysbys mewn perthynas â hygyrchedd eu nodi isod.

yn ôl i'r brig


Nodweddion hygyrchedd rhyngwyneb yr arolwg

Mae rhyngwyneb ein harolwg yn cynnwys y nodweddion hygyrchedd canlynol. Mae pob un o'r nodweddion canlynol yn bodloni gofynion o ran cydymffurfio â safonau A ac AA WCAG 2.2.

  • Mae geiriad pob cwestiwn yn ymddangos mewn testun plaen du neu las (#4051bc).
  • Ni chaiff ffont italig nac ysgrifen wedi'i thanlinellu eu defnyddio.
  • Mae opsiynau ymateb yn cael eu gosod fel y gall defnyddwyr ddewis unrhyw fan yn y blwch ateb neu yn y geiriad.
  • Gosodir y botwm 'nesaf' yn yr un safle ar bob sgrin.
  • Dyluniad hygyrch ar gyfer cwestiynau sengl, lluosog, rhifiadol, testun agored a grid.

Nodweddion Arolwg Cwsmeriaid CThEF nad ydynt yn gwbl hygyrch

  1. Nid yw'r negeseuon gwall sy'n ymddangos wrth ateb cwestiwn yn bodloni safonau AA WCAG 2.2, gan nad ydynt yn cael eu darllen yn uchel gan ddarllenwyr sgrin, ac felly nid yw'r wybodaeth ar gael i unrhyw un sy'n defnyddio'r math hwn o feddalwedd.
  2. Nid yw'r ffordd y caiff yr eiconau help eu harddangos yn bodloni safonau A nac AA WCAG 2.2, gan nad yw'n bosibl cynnwys fersiwn hygyrch o'r nodwedd hon.
  3. Nid yw ein cwestiynau gyda graddfeydd yn bodloni safonau AA WCAG 2.2 gan nad yw'r labelau ar ddiwedd y graddfeydd yn cael eu darllen yn uchel gan ddarllenwyr sgrin.
  4. Mae'r codau i ymateb "Ddim yn gwybod", "Mae'n well gennyf beidio â dweud" a "Ddim yn berthnasol" wedi'u cuddio drwy gydol yr arolwg, a byddant ond yn ymddangos os bydd y sawl sy'n cymryd rhan yn ceisio symud ymlaen heb roi ymateb. Gallai hyn godi problemau hygyrchedd nad ydynt yn bodloni safonau AA WCAG 2.2, gan y gallai greu argraff bod y sawl sy'n cymryd rhan yn cael yr un cwestiwn ddwywaith.

yn ôl i'r brig


Nodweddion hygyrch y wefan hon

Ar y wefan hon a rhyngwyneb yr arolwg, mae'r nodweddion sy'n cynorthwyo hygyrchedd yn cynnwys y gallu i wneud y canlynol:

  • Newid lefelau cyferbynnedd, lliwiau a ffontiau ar rai porwyr.
  • Chwyddo'r sgrin i hyd at 300%, gyda'r testun yn parhau i fod yn weledol ar y sgrin.
  • Gwe-lywio'r mwyafrif o gynnwys y wefan a'r arolwg gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig.
  • Gwrando ar y mwyafrif o gynnwys y wefan a'r arolwg gan ddefnyddio darllenydd sgrin.

Mae cynnwys y wefan, a thrwy gydol rhyngwyneb yr arolwg, wedi cael ei ysgrifennu a'i strwythuro gan ddefnyddio ieithwedd hygyrch lle bo hynny'n bosibl.

yn ôl i'r brig


Sut i ddefnyddio nodweddion hygyrchedd y wefan a rhyngwyneb yr arolwg

Isod, amlinellir manylion am sut gall y wefan a rhyngwyneb yr arolwg gael eu haddasu i fodloni gofynion hygyrchedd.

Newid y lliwiau'r a'r arddull a gaiff eu defnyddio

Gall hyn fod o fudd i chi os oes gennych olwg gwan a bod angen lliwiau â chyferbynnedd uchel arnoch.

  • Yn Microsoft Edge, cliciwch ar y ddewislen 'Settings' a gosod eich dewisiadau gan ddefnyddio'r botwm 'Appearance'.
  • Yn Firefox, cliciwch ar y botwm 'Menu' a dewis 'Settings'. O dan yr adran 'Language and Appearance' dewiswch y botwm 'Manage Colours'. Bydd hyn yn agor ffenestr newydd lle cewch addasu eich dewisiadau. Dewiswch yr opsiwn 'Always' o'r gwymplen 'Override the colours specified by the page with my selections above'. Cliciwch ar 'OK' er mwyn mynd yn ôl i Firefox.
  • Ar hyn o bryd, nid oes opsiwn i newid lliw testun na lliw'r cefndir yn Google Chrome nac yn Safari. Er mwyn dod o hyd i estyniadau hygyrchedd ar gyfer Chrome, ewch i'r Chrome Web Store a chwilio am 'accessibility'.

Fel arall, gallwch newid gosodiadau eich system weithredu fel bod y lliwiau yr ydych wedi eu dewis yn ymddangos bob tro y byddwch yn defnyddio eich cyfrifiadur. Mae'r cyfarwyddiadau yn amrywio yn dibynnu ar eich system weithredu, a gallwch ddod o hyd iddynt ar wefan My Computer My Way.

Gwneud maint y ffont yn fwy

Gallwch chwyddo'r sgrin er mwyn cynyddu maint y ffont drwy addasu gosodiadau eich porwr. Gall hyn fod o fudd os oes gennych olwg gwan.

  • Gan ddefnyddio eich bysellfwrdd, daliwch y fysell Ctrl i lawr a phwyso'r fysell = er mwyn chwyddo'r sgrin, neu bwyso'r fysell – (minws) os ydych eisiau dad-chwyddo. Er mwyn dychwelyd i'r maint safonol, daliwch y fysell Ctrl i lawr a phwyswch y fysell 0 (sero).
  • Os oes gennych lygoden ag olwyn, gallwch chwyddo'r sgrin drwy bwyso Ctrl a symud yr olwyn sydd ar eich llygoden ar yr un pryd.
  • Mae'r mwyafrif o ddyfeisiau symudol, megis llechi a ffônau clyfar, yn defnyddio symudiadau ar sgriniau cyffwrdd megis 'pinsio a chwyddo' er mwyn newid maint y dudalen. Mae'n bosibl y bydd tapio ddwywaith yn gyflym ar y sgrin yn cael yr un effaith o chwyddo.

Gwe-lywio gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig

Mae'n bosibl gwe-lywio gwefan yr arolwg gan ddefnyddio eich bysellfwrdd yn unig.

  • Defnyddiwch y bysellau saethau er mwyn sgrolio i fyny ac i lawr y dudalen.
  • Cewch ddefnyddio'r fysell Tab er mwyn symud rhwng cysylltiadau, a phwyso Return neu Enter er mwyn dewis un.

Yn ogystal, mae'n bosibl gwe-lywio rhyngwyneb yr arolwg drwy ddefnyddio bysellfwrdd yn unig, ond mewn modd ychydig yn wahanol.

  • Defnyddiwch y bysellau saethau er mwyn gwe-lywio rhwng ymatebion i gwestiynau lle gallwch ond dewis un ateb.
  • Defnyddiwch y fysell Tab er mwyn gwe-lywio rhwng yr ymatebion ar gyfer yr holl gwestiynau eraill.
  • Defnyddiwch y fysell Tab er mwyn symud o'r opsiynau ymateb i'r botwm 'Nesaf', a gaiff ei ddefnyddio er mwyn mynd ymlaen i'r cwestiwn nesaf.
  • Cewch ddefnyddio'r bysellau Enter neu Return er mwyn dewis ymateb neu er mwyn dewis y botwm 'Nesaf'.

Cydweddu â darllenwyr sgrin

Mae'n bosibl gwe-lywio gwefan a rhyngwyneb yr arolwg drwy ddefnyddio darllenydd sgrin. Os ydych yn defnyddio cyfrifiadur Windows neu Apple, yna mae'n bosibl bod gan eich system weithredu offerynnau darllenydd sgrin. Mae meddalweddau darllenydd sgrin eraill ar gael, a rhai ohonynt yn rhad ac am ddim. Gallwch ddod o hyd i ragor o fanylion ar wefan y Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall: RNIB - Supporting people with sight loss.

yn ôl i'r brig


Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon a rhyngwyneb yr arolwg. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau sydd heb eu rhestru ar y dudalen hon, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion isod.

E-bost:

Rhif ffôn: 0800 051 0885

Er mwyn ein helpu i ddeall eich trafferthion yn gyflym, nodwch 'hygyrchedd' yn eich cais. Bydd pob darn o adborth adeiladol ynghylch hygyrchedd neu ddefnyddioldeb yn cael ei groesawu a'i ystyried yn ofalus.

Cysylltwch os oes angen copi papur o'r holiadur arnoch, neu gopi ar unrhyw fformat arall.

yn ôl i'r brig


Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Preparwyd y datganiad hwn ar 21/08/2025. Wedi'i adolygu ddiwethaf ar 21/08/2025.

yn ôl i'r brig











eiconau o wahanol fathau o bobl a dyfeisiau