Rydym eisiau sicrhau y gall pawb gymryd rhan yn yr arolwg. Os oes angen cymorth arnoch chi, neu rywun yn eich aelwyd, wrth gwblhau’r holiadur, neu os oes angen copi papur neu addasiad hygyrchedd, cysylltwch â’n llinell gymorth am ddim ar 0800 051 0885 neu anfonwch e-bost at hmrcsurvey@veriangroup.com.
Os nad oes aelod o’r tîm ar gael i dderbyn eich galwad, gadewch neges a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted ag y gallwn. Gadewch eich rhif ffôn, eich enw llawn a’r cyfeirnod (y chwe digid olaf ar ôl y blaenslaes) sydd ar frig eich gwahoddiad neu’ch llythyr atgoffa.
Os hoffech gysylltu ag aelod o Dîm Arolygon Cwsmeriaid CThEF i gael rhagor o wybodaeth am bwrpas yr ymchwil hon, anfonwch e-bost at customersurveyteam@hmrc.gov.uk.
Gallwch hefyd edrych ar ein tudalen Cwestiynau Cyffredin i weld a oes ateb i’ch ymholiad yno.